Côr y Gofalwyr

Mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o gyhoeddi ein Côr Gofalwyr.

Mae côr yn rhoi cyfle i ofalwyr di-dâl gael seibiant byr i ffwrdd o’u rôl ofalu, i gymryd rhan mewn gweithgaredd hwyliog sy’n canolbwyntio ar eu lles. Mae ganddo gymaint o fanteision, o leihau unigedd ac unigrwydd i ffurfio cysylltiadau cadarnhaol a chyfeillgarwch ag eraill sydd yn yr un sefyllfa.

Mae sesiynau bob dydd Mawrth, 2-3pm yng Nghanolfan Gymunedol Westward , Heol Llangewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4JR. Croeso i bob gallu canu. Croesewir rhodd o £3.

Mae ein Côr Gofalwyr yn cael ei ariannu gan y Cynllun Seibiannau Byr drwy fenter Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a lansiwyd yn 2022 i gefnogi 30,000 o ofalwyr di-dâl o bob cwr o Gymru i gymryd seibiant mawr ei angen o’u cyfrifoldebau gofalu. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’n rhedeg o 2022-2025. Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yw corff Cydlynu Cenedlaethol y cynllun, sy’n dosbarthu grantiau i elusennau ledled Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, dewch draw neu cysylltwch â ni ar 01656 658479 am ragor o wybodaeth.