Ansawdd y Gwasanaeth

Nod Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yw darparu gwasanaeth ymatebol o ansawdd uchel, dan arweiniad gofalwyr. Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hynny, mae angen i ni ystyried barn a dymuniadau’r rhai yr ydym yma i’w helpu. Rydym yn croesawu pob cyfle i glywed adborth a sylwadau gan ein buddiolwyr yn ogystal â phartneriaid a sefydliadau eraill yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Mae sylwadau ac adborth yn werthfawr, yn cael eu croesawu ac yn bwysig a phan gânt eu derbyn, naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig, byddant yn cael eu cofnodi. Mae sylwadau ac adborth yn ein galluogi i:-

  • deall bod ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu i foddhad ein gofalwyr
  • rhoi adborth cadarnhaol i’n staff
  • dylanwadu ar ddatblygiad ein sefydliad a’n gwasanaethau
  • llywio ein rhaglen sicrhau ansawdd

I rannu sylwadau, adborth neu os oes gennych unrhyw gwynion, cysylltwch â ni ar 01656 658479 neu anfonwch e-bost at enquiries@bridgendcarers.co.uk.

Mae gan Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr Bolisi Sylwadau a Chwynion sydd ar gael isod:-

Polisi Sylwadau a Chwynion