Rhaglen Amser 2023-24

Ar agor ar gyfer ceisiadau Ionawr 2023

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn falch iawn o gyhoeddi mai hi fydd corff Cydlynu Cenedlaethol Amser, y rhaglen ariannu Seibiannau Byr. Diolch i’r gefnogaeth barhaus i anghenion gofalwyr di-dâl gan Lywodraeth Cymru, bydd y Rhaglen Seibiannau Byr genedlaethol newydd hon ar gyfer gofalwyr di-dâl yn cynyddu cyfleoedd i ofalwyr di-dâl gymryd seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu.

Bydd tua £3.8m yn cael ei ddosbarthu mewn grantiau rhwng £5,000 a £100,000 i bartneriaid yn y trydydd sector i ddarparu cyfleoedd seibiannau byr wedi’u targedu i ofalwyr di-dâl ledled Cymru.

Bydd Amser yn cael ei lansio’n swyddogol ym mis Ionawr 2023 a disgwylir i’r ddarpariaeth gan bartneriaid y rhaglen ddechrau o fis Ebrill 2023 ymlaen.

Beth fydd Amser yn ei ariannu?

Bydd Amser yn ariannu prosiectau a all gynyddu argaeledd a hygyrchedd darpariaeth seibiannau byr i ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Ei nod yw ariannu opsiynau seibiannau byr personol, hyblyg a chreadigol, gan gynnwys gweithgareddau grŵp gofalwyr. Ei ffocws fydd sicrhau bod cymorth yn cael ei dargedu at y gofalwyr hynny sydd ei angen fwyaf.

Bydd prosiectau a ariennir yn gwella gwydnwch a lles gofalwyr ac yn cefnogi cynaliadwyedd perthynas ofalu’r gofalwr.

Gyda ffocws cryf ar degwch, amrywiaeth a chynhwysiant, bydd Amser yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bob gofalwr di-dâl ledled Cymru, gan gynnwys y rhai o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol fel gofalwyr gwrywaidd, gofalwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol a chymunedau LHDT+.

Beth yw Seibiant Byr?

Gall seibiant byr gymryd sawl ffurf, ond bydd bob amser yn rhoi amser seibiant hanfodol i ofalwr di-dâl i ffwrdd o’i rôl ofalu a rhywfaint o amser gwerthfawr iddo’i hun. Mae enghreifftiau’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Penwythnos i ffwrdd i ofalwr di-dâl
  • Seibiant canol wythnos i ofalwr di-dâl a’r person y maent yn gofalu amdano
  • Noson yn y sinema neu bryd o fwyd allan
  • Trip wedi’i drefnu ar gyfer grŵp o ofalwyr di-dâl
  • Grŵp cymorth cyfoedion ar-lein bob pythefnos
  • Sesiynau ioga neu pilates wythnosol

Gall yr egwyl fod yn rhywbeth y mae gofalwr yn ei wneud ar ei ben ei hun, neu gall fod yn egwyl gyda’r person y mae’n gofalu amdano. Gall hefyd gynnwys diwrnod allan i’r teulu – naill ai gyda chefnogaeth neu heb gefnogaeth.

Gall partneriaid y rhaglen ddefnyddio Amser i dreialu syniadau a dulliau newydd o amgylch beth yw seibiant byr a dangos gwahanol ffyrdd o roi seibiant i ofalwyr.

Pwy all wneud cais?

Bydd sefydliadau trydydd sector sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu sy’n gweithio yng Nghymru yn gallu gwneud cais.

Faint o gyllid fydd ar gael a beth yw maint y grant?

Bydd tua £1.9 miliwn ar gael yn ystod blynyddoedd ariannol 2023-24 a 2024-25.

Bydd grantiau rhwng £5,000 a £100,000 ar gael a gall sefydliadau wneud cais am grant am flwyddyn neu ddwy flynedd.

Sut alla i gofrestru diddordeb mewn cael pecyn cais?

Bydd pecynnau cais ar gael ym mis Ionawr 2023. Os hoffech gofrestru i becyn gael ei anfon atoch yn uniongyrchol, anfonwch e-bost at shortbreakswales@carers.org .