Grŵp Cerdded a Siarad

Mae ein grŵp Cerdded a Siarad wedi bod yn rhedeg ers nifer o fisoedd ac mae wedi profi’n boblogaidd iawn ac yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr eraill, rhannu profiadau wrth wella ein lles corfforol a meddyliol.

Rydym yn cyfarfod bob mis mewn gwahanol leoliadau ac yn mwynhau taith gerdded 1-2 awr ac yna te neu goffi haeddiannol wedyn.